betaMae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (opens in a new window) yn ein helpu i'w wella
Cael arweiniad ymddeoliad
Crëwch gynllun gweithredu ymddeoliad gyda'n teclyn am ddim. Byddwn yn eich paru â chanllawiau i ddeall eich opsiynau ac yn egluro'r camau y gallwch eu cymryd i wneud y gorau o'ch pensiwn.
Cael arweiniad ymddeoliadBeth gewch chi
Bydd y teclyn hwn yn rhoi cynllun gweithredu ymddeoliad i chi gyda:
- gwybodaeth allweddol i'ch helpu i ddeall eich opsiynau
- camau awgrymedig i wneud y gorau o'ch pensiwn
- offer defnyddiol i amcangyfrif faint o incwm ymddeoliad y gallech fod ei angen arnoch ac a ydych chi ar y trywydd i gyrraedd eich nodau
- ble gallwch chi gael cymorth a chefnogaeth gyda'ch penderfyniadau.
Ni fyddwch chi'n gweld eich holl bensiynau na'ch union incwm pensiwn. Fel arfer gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon trwy fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr pensiwn neu drwy gysylltu â nhw.
Sut mae'n gweithio
Byddwn yn gofyn am fanylion amdanoch chi a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:
- y mathau o bensiwn sydd gennych
- pa mor bell o ymddeoliad ydych chi
- os ydych chi'n bwriadu ymddeol y tu allan i'r DU.
Amser cwblhau cyfartalog o 5 munud